Cynllunio fy nhaith

Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf

Arosfannau bysiau defnyddiol

Ein cynghorion teithio lleol

  • Bws
  • Trên
  • Beic
  • Cerdded
  • Tacsi
  • Car
  • Parcio a Theithio

Cynllunio Taith gyda Traveline Cymru!

I gynllunio taith, cymerwch olwg ar ein Cynlluniwr Taith yn y fan ho.


Y bws

Mae'n hawdd teithio'n ôl ac ymlaen i Ysbyty Ystrad Fawr ar y bws. Mae bysiau yn teithio'n rheolaidd i'r ysbyty o'r prif gyfnewidfeydd trafnidiaeth ym Margod, Caerffili a Choed-duon.


Mae'r arosfannau bysiau mewn lleoliad cyfleus ar Caerphilly Road ac maent yn cynnwys cyrbau uchel a chysgodfannau newydd. Dim ond ychydig fetrau sydd rhwng yr arosfannau a mynedfa'r ysbyty, ac mae'r ardal gyhoeddus y mae'n rhaid cerdded ar ei thraws yn wastad ac wedi'i goleuo yn dda.


Gwasanaethau defnyddiol

C17

Harris Coaches

C9

Harris Coaches

4

Harris Coaches

50

Stagecoach

26

Stagecoach


Defnyddio technoleg ddigyffwrdd

Erbyn hyn, gallwch ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd neu ApplePay i dalu ar fysiau mwyafrif y prif weithredwyr!

Ewch ar y bws, gofynnwch i'r gyrrwr am y tocyn yr hoffech ei gael, a defnyddiwch dechnoleg ddigyffwrdd i dalu amdano!


Fyngherdynteithio

Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!

Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!

Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.

Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.


Tocynnau bws rhatach

Gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach gan Lywodraeth Cymru ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Lloegr i deithio yng Nghymru.

Nodwch na allwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau bws megis National Express neu Megabus. Mae National Express yn cynnig cerdyn teithio i bobl dros 60 oed, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cerdyn hwnnw drwy glicio yma.

Mae rhagor o wybodaeth am ddulliau rhatach o deithio i'w chael yma.


Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys

Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys yn wasanaeth i gleifion ledled Cymru nad ydynt, am resymau meddygol, yn gallu trefnu eu ffordd eu hunain o deithio’n ôl ac ymlaen i’w hapwyntiadau ysbyty.

Mae’n adnodd hanfodol i helpu’r cleifion hynny y mae arnynt angen y gwasanaeth ac sy’n dibynnu arno, ac ni ddylai gael ei ddefnyddio yn lle ffyrdd eraill o gyrraedd apwyntiadau.

 

Nodwch nad yw angen am driniaeth yn gyfystyr ag angen am gludiant. Mae’n rhaid i bob claf fynd drwy broses cadarnhau cymhwystra, er mwyn sicrhau bod modd cynnig y gwasanaeth iddynt.

Os gwelir nad yw cleifion yn gymwys, gall y Tîm Cludiant Amgen drafod opsiynau o ran trafnidiaeth sydd ar gael yn eich ardal ac a allai eich helpu.

Cliciwch yma i weld a ydych yn gymwys.

Trên

Mae Gorsaf Reilffordd Ystrad Mynach tua milltir o'r ysbyty.

I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’. I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trafnidiaeth Cymru.


Cynllunio Taith gyda Traveline Cymru!

I gynllunio taith ar feic, defnyddiwch Gynlluniwr Beicio Traveline sydd ar dop ffenestr y Cynlluniwr Taith yn y fan hon.


Cerdded

I gynllunio llwybr cerdded, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith yn y fan hon a dewiswch yr eicon 'cerdded'.

Tacsi

  • Draphont taxis - 07933 642 809
  • K C Taxi's - 07792 316 783
  • Marks Taxis - 07792316 783

Parcio

Mae yna faes parcio ac ynddo dros 600 o leoedd dan y prif adeilad. Mae lleoedd parcio i ddeiliaid Bathodyn Glas ac i rieni a phlant ar gael yn nes at y mynedfeydd. Ceir sawl mynedfa o'r maes parcio. Wrth ymyl pob mynedfa mae lifftiau a fydd yn mynd â chi'n syth i'r lefel y mae arnoch ei hangen. Mae'r brif dderbynfa ar y llawr gwaelod isaf.


Nid oes gwasanaethau parcio a theithio ar gael ar hyn o bryd.

Os oes angen i chi wirio am aflonyddwch gwasanaeth, edrychwch ar wefan Traveline.

Gweld ein tudalen aflonyddwch

Gallwch ffonio asiantau ein Canolfan Gyswllt ar 0800 464 0000

Ewch i'n gwefan cymraeg.traveline.cymru

Mae gennym wasanaeth neges destun ar gael. Rhif testun Traveline 84268*

Dadlwythwch ap Traveline Cymru Ar gael ar iPhone a Android dyfeisiau

* Mae 84268 yn rhif ansafonol a all gostio mwy na thestun safonol ac ni chaniateir ei gynnwys mewn unrhyw fwndeli tariff. Gwiriwch â'ch gweithredwr symudol.

** Bydd eich ateb yn rhad ac am ddim i'w dderbyn, ar yr amod bod yr arosfannau bysiau dan sylw wedi'u lleoli yng Nghymru. Ar gyfer arosfannau bysiau y tu allan i Gymru, codir £ 0.25 arnoch i dderbyn yr ateb.