Cynllunio fy nhaith
Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf
Arosfannau bysiau defnyddiol
Ein cynghorion teithio lleol
Gwasanaethau defnyddiol
Newport Bus
Cynllunio Taith gyda Traveline Cymru!
I gynllunio taith, cymerwch olwg ar ein Cynlluniwr Taith yn y fan ho.
Fyngherdynteithio
Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!
Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!
Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.
Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.
Tocynnau bws rhatach
Gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach gan Lywodraeth Cymru ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Lloegr i deithio yng Nghymru.
Nodwch na allwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau bws megis National Express neu Megabus. Mae National Express yn cynnig cerdyn teithio i bobl dros 60 oed, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cerdyn hwnnw drwy glicio yma.
Mae rhagor o wybodaeth am ddulliau rhatach o deithio i'w chael yma.
Defnyddio technoleg ddigyffwrdd
Erbyn hyn, gallwch ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd neu ApplePay i dalu ar fysiau mwyafrif y prif weithredwyr!
Ewch ar y bws, gofynnwch i'r gyrrwr am y tocyn yr hoffech ei gael, a defnyddiwch dechnoleg ddigyffwrdd i dalu amdano!
Trên
Casnewydd yw'r orsaf reilffordd agosaf, sydd oddeutu 4 milltir o'r ysbyty.
I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’. I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trafnidiaeth Cymru.
Cynllunio Taith gyda Traveline Cymru!
Mae Llwybr Beicio Cenedlaethol 88 yn cysylltu Caerllion a'r ysbyty â chanol dinas Casnewydd.
I gynllunio taith ar feic, defnyddiwch Gynlluniwr Beicio Traveline sydd ar dop ffenestr y Cynlluniwr Taith yn y fan hon.
Cerdded
Mae modd cerdded i'r ysbyty drwy ddefnyddio Llwybr Beicio Cenedlaethol 88 sy'n cysylltu Caerllion â chanol dinas Casnewydd.
I gynllunio llwybr cerdded, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith yn y fan hon a dewiswch yr eicon 'cerdded'.
Tacsi
• ABC Taxis – 01633 666666
• Chow Taxi – 01633 211011
• Dragon Taxi – 01633 216216
Parcio
Mae lleoedd parcio ar gael ar y safle.
Nid oes gwasanaethau parcio a theithio ar gael ar hyn o bryd.
Os oes angen i chi wirio am aflonyddwch gwasanaeth, edrychwch ar wefan Traveline.
Gweld ein tudalen aflonyddwchGallwch ffonio asiantau ein Canolfan Gyswllt ar 0800 464 0000
Ewch i'n gwefan cymraeg.traveline.cymru