Cynllunio fy nhaith

Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf

Arosfannau bysiau defnyddiol

Ein cynghorion teithio lleol

  • Bws
  • Trên
  • Beic
  • Cerdded
  • Tacsi
  • Car
  • Parcio a Theithio

Gwasanaethau defnyddiol


Cynllunio Taith gyda Traveline Cymru!

I gynllunio taith, cymerwch olwg ar ein Cynlluniwr Taith yn y fan ho.


Fyngherdynteithio

Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!

Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!

Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.

Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.

 
 

Tocynnau bws rhatach

Gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach gan Lywodraeth Cymru ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Lloegr i deithio yng Nghymru.

Nodwch na allwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau bws megis National Express neu Megabus. Mae National Express yn cynnig cerdyn teithio i bobl dros 60 oed, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cerdyn hwnnw drwy glicio yma.

Mae rhagor o wybodaeth am ddulliau rhatach o deithio i'w chael yma.


Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys

Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys yn wasanaeth i gleifion ledled Cymru nad ydynt, am resymau meddygol, yn gallu trefnu eu ffordd eu hunain o deithio’n ôl ac ymlaen i’w hapwyntiadau ysbyty.

Mae’n adnodd hanfodol i helpu’r cleifion hynny y mae arnynt angen y gwasanaeth ac sy’n dibynnu arno, ac ni ddylai gael ei ddefnyddio yn lle ffyrdd eraill o gyrraedd apwyntiadau.

 

Nodwch nad yw angen am driniaeth yn gyfystyr ag angen am gludiant. Mae’n rhaid i bob claf fynd drwy broses cadarnhau cymhwystra, er mwyn sicrhau bod modd cynnig y gwasanaeth iddynt.

Os gwelir nad yw cleifion yn gymwys, gall y Tîm Cludiant Amgen drafod opsiynau o ran trafnidiaeth sydd ar gael yn eich ardal ac a allai eich helpu.

Cliciwch yma i weld a ydych yn gymwys.

Trên

Yr orsaf reilffordd agosaf yw gorsaf Tŷ Glas (0.2 milltir i ffwrdd) sydd oddeutu 4 munud o waith cerdded o'r safle.

I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’. I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trafnidiaeth Cymru.


Cynllunio Taith gyda Traveline Cymru!

I gynllunio taith ar feic, defnyddiwch Gynlluniwr Beicio Traveline sydd ar dop ffenestr y Cynlluniwr Taith yn y fan hon.


Cyfleusterau beicio

Mae cyfleuster diogel ar gyfer storio beiciau ar gael o amgylch ymyl yr adeilad.


NextBike

Mae un o orsafoedd NextBike y tu allan i'r safle. Gallwch weld ei lleoliad a gweld faint o feiciau sydd ar gael drwy ddefnyddio ein Chwiliwr Arosfannau Bysiau yn y fan hon. Chwiliwch am CF14 4HH. Bydd modd i'r staff ddefnyddio beiciau NextBike am ddim am 30 munud.


Cerdded

I gynllunio llwybr cerdded, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith yn y fan hon a dewiswch yr eicon 'cerdded'.


Tacsi

Premier (029 2055 5555)

Dragon (029 2033 3333)

Capital (029 2077 7777)


Ap Tacsi

Mae Uber ac Ola ar gael yng Nghaerdydd erbyn hyn! Cliciwch ar y ddolen gyswllt i lawrlwytho'r apiau.

Uber - Apple Google Play

Ola - Apple / Google Play


Parcio

Bydd y staff yn cael trwydded barcio os ydynt yn byw dros ddwy filltir i ffwrdd o Woodland House. Mae'n caniatáu i staff llawn-amser barcio am dri diwrnod yr wythnos, a bydd nifer y diwrnodau ar gyfer staff rhan-amser yn cael ei chyfrifo ar sail pro rata. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd modd i chi barcio ar y diwrnodau a bennwyd ar eich cyfer.
Bydd yn rhaid i chi ddefnyddio dulliau teithio / cyfleusterau parcio amgen ar y ddau ddiwrnod arall. Bydd mynediad i'r maes parcio yn cael ei reoli â rhwystr TDSi. Bydd y drefn hon yn dechrau ym mis Medi.

Bydd yn rhaid i'r staff roi eu trwyddedau parcio ar gyfer safle Ysbyty Athrofaol Cymru yn ôl pan fydd trwydded ar gyfer safle Woodland House yn cael ei rhoi iddynt (oddeutu mis Medi). Ni fydd y staff sy'n gweithio yn Woodland House yn cael trwydded ar gyfer safle Ysbyty Athrofaol Cymru, a bydd yn rhaid iddynt ddefnyddio'r cyfleuster Parcio a Theithio neu barcio oddi ar y safle.


Nid oes gwasanaethau parcio a theithio ar gael ar hyn o bryd.

Os oes angen i chi wirio am aflonyddwch gwasanaeth, edrychwch ar wefan Traveline.

Gweld ein tudalen aflonyddwch

Gallwch ffonio asiantau ein Canolfan Gyswllt ar 0800 464 0000

Ewch i'n gwefan cymraeg.traveline.cymru

Mae gennym wasanaeth neges destun ar gael. Rhif testun Traveline 84268*

Dadlwythwch ap Traveline Cymru Ar gael ar iPhone a Android dyfeisiau

* Mae 84268 yn rhif ansafonol a all gostio mwy na thestun safonol ac ni chaniateir ei gynnwys mewn unrhyw fwndeli tariff. Gwiriwch â'ch gweithredwr symudol.

** Bydd eich ateb yn rhad ac am ddim i'w dderbyn, ar yr amod bod yr arosfannau bysiau dan sylw wedi'u lleoli yng Nghymru. Ar gyfer arosfannau bysiau y tu allan i Gymru, codir £ 0.25 arnoch i dderbyn yr ateb.