Cynllunio fy nhaith

Dod o hyd i’r arhosfan bysiau agosaf

Arosfannau bysiau defnyddiol

Ein cynghorion teithio lleol

  • Bws
  • Trên
  • Beic
  • Cerdded
  • Tacsi
  • Car
  • Parcio a Theithio

Cynllunio Taith gyda Traveline Cymru!

I gynllunio taith, cymerwch olwg ar ein Cynlluniwr Taith yn y fan ho.


Gwasanaethau defnyddiol

95

Cardiff Bus

95A

Cardiff Bus

89A

New Adventure Travel


Bws gwennol rhad ac am ddim

Mae Ysbyty Athrofaol Cymru ac Ysbyty Athrofaol Llandochau yn darparu bws gwennol rhad ac am ddim rhwng y ddau safle. Gallwch weld yr amserlen yn y fan hon.

Shuttle_bus_timetable.pdf


Fyngherdynteithio

Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!

Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!

Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.

Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.


Tocynnau bws rhatach

Gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach gan Lywodraeth Cymru ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Lloegr i deithio yng Nghymru.

Nodwch na allwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau bws megis National Express neu Megabus. Mae National Express yn cynnig cerdyn teithio i bobl dros 60 oed, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cerdyn hwnnw drwy glicio yma.

Mae rhagor o wybodaeth am ddulliau rhatach o deithio i'w chael yma.


Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys

Mae’r Gwasanaeth Cludo Cleifion mewn Achosion nad ydynt yn rhai Brys yn wasanaeth i gleifion ledled Cymru nad ydynt, am resymau meddygol, yn gallu trefnu eu ffordd eu hunain o deithio’n ôl ac ymlaen i’w hapwyntiadau ysbyty.

Mae’n adnodd hanfodol i helpu’r cleifion hynny y mae arnynt angen y gwasanaeth ac sy’n dibynnu arno, ac ni ddylai gael ei ddefnyddio yn lle ffyrdd eraill o gyrraedd apwyntiadau.

 

Nodwch nad yw angen am driniaeth yn gyfystyr ag angen am gludiant. Mae’n rhaid i bob claf fynd drwy broses cadarnhau cymhwystra, er mwyn sicrhau bod modd cynnig y gwasanaeth iddynt.

Os gwelir nad yw cleifion yn gymwys, gall y Tîm Cludiant Amgen drafod opsiynau o ran trafnidiaeth sydd ar gael yn eich ardal ac a allai eich helpu.

Cliciwch yma i weld a ydych yn gymwys.

Trên

Yr orsaf reilffordd agosaf i'r safle yw gorsaf Cogan (0.8 milltir i ffwrdd) ar reilffyrdd y Cymoedd a Chaerffili, sy'n darparu gwasanaeth rheolaidd.  


Cynllunio eich taith

I gynllunio taith ar y trên, ewch i Traveline Cymru a dewiswch ‘Trên yn unig’. I gael rhagor o wybodaeth am docynnau, ewch i Trafnidiaeth Cymru.


Cynllunio teithiau ar feic

I gynllunio taith ar feic, defnyddiwch Gynlluniwr Beicio Traveline sydd ar dop ffenestr y Cynlluniwr Taith yn y fan hon.


Cyfleusterau beicio

Mae cyfleusterau beicio ar gael yn Ysbyty Athrofaol Llandochau, sy'n cynnwys cyfleusterau storio beiciau ynghyd â chawodydd a chyfleusterau newid. Gellir gweld eu lleoliad ar y map o'r safle, sydd ar waelod y dudalen hon.


NextBike

Mae NextBike wrthi'n trefnu bod gorsaf NextBike yn cael ei gosod ar y safle. Cadwch eich llygaid ar agor am y newyddion diweddaraf! Gallwch weld ei lleoliad a gweld faint o feiciau fydd ar gael drwy ddefnyddio ein Chwiliwr Arosfannau Bysiau yn y fan hon


Cerdded

I gynllunio llwybr cerdded, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith yn y fan hon a dewiswch yr eicon 'cerdded'.


Tacsi

Penarth -

Cabs 64 (029 2070 6464)

Penarth Cars (029 2070 1122)

Windsor Cars (029 2070 0799)

 

Barry -

1st Line (01446 722888)

A2B Taxis (01446 747500)


Parcio

Mae'n anodd parcio ar bob un o'n safleoedd yn ystod cyfnodau prysur a byddem yn annog cleifion, ymwelwyr a staff i ddefnyddio dulliau teithio amgen pryd bynnag y bo modd. Gellir parcio am ddim ar safle Ysbyty Athrofaol Llandochau am bedair awr. Gellir ychwanegu dwy awr at y cyfnod hwn drwy gofnodi rhif cofrestru'r cerbyd mewn terfynell barcio. 


Parcio a Theithio

Mae gan Ysbyty Athrofaol Cymru wasanaethau Parcio a Theithio fel a ganlyn:

Bae Caerdydd (Hen faes parcio Toys R Us) CF11 0JS
H95_PR.pdf


Os oes angen i chi wirio am aflonyddwch gwasanaeth, edrychwch ar wefan Traveline.

Gweld ein tudalen aflonyddwch

Gallwch ffonio asiantau ein Canolfan Gyswllt ar 0800 464 0000

Ewch i'n gwefan cymraeg.traveline.cymru

Mae gennym wasanaeth neges destun ar gael. Rhif testun Traveline 84268*

Dadlwythwch ap Traveline Cymru Ar gael ar iPhone a Android dyfeisiau

* Mae 84268 yn rhif ansafonol a all gostio mwy na thestun safonol ac ni chaniateir ei gynnwys mewn unrhyw fwndeli tariff. Gwiriwch â'ch gweithredwr symudol.

** Bydd eich ateb yn rhad ac am ddim i'w dderbyn, ar yr amod bod yr arosfannau bysiau dan sylw wedi'u lleoli yng Nghymru. Ar gyfer arosfannau bysiau y tu allan i Gymru, codir £ 0.25 arnoch i dderbyn yr ateb.