Mae gwasanaeth X6 (Abertawe – Ystradgynlais), gwasanaeth 64 (Ystradgynlais – Rhydaman), gwasanaeth 167 (Crynant – Derlwyn) a gwasanaeth 121 (Ystradgynlais – Ystalyfera) i gyd yn aros y tu allan i'r ysbyty.
Caiff Ysbyty Ystradgynlais ei wasanaethu hefyd gan Gynllun Ceir Cymunedol Ystradgynlais, sy'n cynnig cludiant fforddiadwy i bobl hŷn ac anabl sy'n byw o fewn 10 milltir i Ystradgynlais. Gallwch gael gwybod mwy am y cynllun drwy ffonio 01639 849720.
Cynllunio Taith gyda Traveline Cymru!
I gynllunio taith, cymerwch olwg ar ein Cynlluniwr Taith yn y fan ho.
Defnyddio technoleg ddigyffwrdd
Erbyn hyn, gallwch ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd neu ApplePay i dalu ar fysiau mwyafrif y prif weithredwyr!
Ewch ar y bws, gofynnwch i'r gyrrwr am y tocyn yr hoffech ei gael, a defnyddiwch dechnoleg ddigyffwrdd i dalu amdano!
Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!
Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!
Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.
Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.
Gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach gan Lywodraeth Cymru ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Lloegr i deithio yng Nghymru.
Nodwch na allwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau bws megis National Express neu Megabus. Mae National Express yn cynnig cerdyn teithio i bobl dros 60 oed, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cerdyn hwnnw drwy glicio yma.
Mae rhagor o wybodaeth am ddulliau rhatach o deithio i'w chael yma.