Dyma'r arosfannau bysiau agosaf ar gyfer Ysbyty Brenhinol Amwythig:
1.Ar safle'r ysbyty, wrth y brif fynedfa ar gyfer cleifion allanol, ac yn awr hefyd o gefn yr ysbyty, y tu allan i'r Ganolfan Driniaethau – mae gwasanaeth bws Tref Amwythig (gwasanaeth rhif 11 Arriva o Orsaf Fysiau Amwythig) yn galw yma. Mae'r gwasanaeth hwn yn gweithredu bob 15 munud.
2. Wrth ymyl safle'r ysbyty ar Mytton Oak Road – mae sawl gwasanaeth bws sirol yn aros yma, gan gynnwys y canlynol:
Gwasanaeth 74: Amwythig-Ford-Llanymynech-Llanfyllin
Gwasanaeth 553: Amwythig-Trefesgob drwy Hanwood, Pontesbury, Minsterley a Lydham – darperir gan Minsterley Motors.
Gwasanaeth 558: Amwythig-Trefaldwyn drwy Chirbury, Worthen a Yockleton – darperir gan Tanat Valley Coaches.
Gwasanaeth X75: Amwythig-Rhaeadr Gwy drwy Ford, Y Trallwng, Y Drenewydd, Caersŵs, Llandinam a Llanidloes – darperir gan Celtic Travel
3. Gwasanaethau X70 a 70: I'r gogledd o'r ysbyty, ar Welshpool Road, mae arhosfan Oxon Priory. Mae'r arhosfan 15 munud o waith cerdded o Ysbyty Brenhinol Amwythig, ac mae'r gwasanaethau'n teithio rhwng Croesoswallt ac Amwythig.
4. Gwasanaeth 12 – Amwythig i Ystâd Kingswood a Merlin Road. Ar y llwybr hwn, gallwch gyrraedd yr ysbyty ar hyd Westhope Avenue.
Cynllunio Taith gyda Traveline Cymru!
Mae gwasanaeth X11 (Llwydlo – Llanfair-ym-Muallt) yn aros ar Broad Street sydd 5 munud o waith cerdded o fynedfa'r ysbyty.
Caiff Ysbyty Trefyclo ei wasanaethu hefyd gan y Cynllun Ceir Cymunedol, sy'n gallu cynnig cludiant i bobl a fyddai fel arall yn ei chael yn anodd cyrraedd yr ysbyty. I gael gwybod mwy, ffoniwch 01547 520 653.
I gynllunio taith, cymerwch olwg ar ein Cynlluniwr Taith yn y fan ho.
Defnyddio technoleg ddigyffwrdd
Erbyn hyn, gallwch ddefnyddio technoleg ddigyffwrdd neu ApplePay i dalu ar fysiau mwyafrif y prif weithredwyr!
Ewch ar y bws, gofynnwch i'r gyrrwr am y tocyn yr hoffech ei gael, a defnyddiwch dechnoleg ddigyffwrdd i dalu amdano!
Cynllun a gaiff ei redeg gan Lywodraeth Cymru yw fyngherdynteithio, sy’n galluogi unrhyw berson ifanc 16 - 21 oed i arbed o leiaf 1/3 ar bris tocynnau bws yng Nghymru!
Mae’n syml iawn – gwnewch gais ar-lein yma ac fe gewch chi’r cerdyn cyn pen 10 diwrnod gwaith. Ar ôl cael eich cerdyn, dangoswch ef i’r gyrrwr ar eich bws!
Y cyfan y mae arnoch ei angen i wneud cais yw cyfeiriad yng Nghymru a llun sy’n addas i’w lanlwytho.
Gallwch gael gwybod mwy am y cerdyn yma.
Gallwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach gan Lywodraeth Cymru ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio eich cerdyn ar gyfer Lloegr i deithio yng Nghymru.
Nodwch na allwch ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau bws megis National Express neu Megabus. Mae National Express yn cynnig cerdyn teithio i bobl dros 60 oed, a gallwch gael rhagor o wybodaeth am y cerdyn hwnnw drwy glicio yma.
Mae rhagor o wybodaeth am ddulliau rhatach o deithio i'w chael yma.