Mae angen javascript ar y wefan hon

Gwybodaeth Coronafirws

Mae prinder gyrwyr ar draws y diwydiant trafnidiaeth yn golygu bod rhai gweithredwyr yn newid eu hamserlenni ar fyr rybudd.

Close Notice

Angen mynd i’ch apwyntiad nesaf?

Mae cael gafael ar le parcio yn yr ysbyty’n gallu cymryd llawer o amser. Felly, beth am osgoi’r broblem a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Gallwch gynllunio eich teithiau, chwilio am eich arosfannau bysiau a chael y newyddion diweddaraf am drafnidiaeth gyda Traveline Cymru.

Sgroliwch i lawr i gael gwybod mwy...

Cynlluniwr Taith

R’ych chi wedi cael eich apwyntiad ond d’ych chi ddim am fynd yn y car. Felly, beth r’ych chi’n ei wneud?

Mae ein Cynlluniwr Taith yma i’ch helpu i gynllunio eich llwybr a dod o hyd i’r ffordd hawsaf o gyrraedd pen eich taith.

Ewch i'n Cynlluniwr Taith yma

Cynllunio eich taith

Teipiwch fan cychwyn a man gorffen eich taith yn y Cynlluniwr, ynghyd â’r dyddiad a’r amser y byddech yn hoffi teithio.

Yna, pwyswch y botwm 'Anfon' a bydd manylion y llwybrau sydd ar gael yn cael eu dangos ynghyd â’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i gyrraedd pen eich taith!

Beth am roi cynnig ar ei ddefnyddio yma?

Chwiliwr Arosfannau

Mae eich apwyntiad wedi bod, ond sut mae cyrraedd adref?

Os nad ydych yn siŵr pa fysiau sy’n teithio o ble, cymerwch olwg ar ein Chwiliwr Arosfannau Bysiau!

Ewch i'n Darganfyddwr Stopiau Bws yma

Gweld ein gwefan

Yma, gallwch ddarganfod pa arosfannau bysiau sy’n agos i chi a pha wasanaethau y gallwch eu dal wrth bob un.

Teipiwch eich lleoliad yn y Chwiliwr Arosfannau Bysiau a chliciwch ar yr arosfannau bysiau er mwyn gweld pa fysiau sy’n eu gadael nesaf.

Rhowch gynnig ar ei ddefnyddio yma

Ap Traveline Cymru

Fyddwch chi’n mynd i’r dref ar ôl eich apwyntiad?

Gallwch chwilio am unrhyw amserlen fysiau yng Nghymru a chynllunio’r diwrnod cyfan!

Lawrlwytho ein ap

Lawrlwythwch ein ap dwyieithog, rhad ac am ddim ar gyfer dyfeisiau Android ac Apple, a fydd yn sicrhau bod yr holl wybodaeth angenrheidiol am drafnidiaeth gyhoeddus gennych ar flaenau’ch bysedd tra byddwch yn mynd o le i le.

 

Amserlenni

Ydych chi’n mynd i ymweld â rhywun yn yr ysbyty?

Gallwch gynllunio eich taith a chadw eich hoff arosfannau bysiau er mwyn cael gafael arnynt yn sydyn, ymhlith llawer o bethau eraill! Byddwch wedi cyrraedd pen eich taith ac yn ôl adref mewn chwinciad!

Ffoniwch ni

0300 200 22 33

Ffoniwch ein canolfan alwadau i siarad ag un o’n hasiantiaid cyfeillgar. Gallant ddweud wrthych pryd y bydd y bws nesaf yn cyrraedd, eich helpu gydag ymholiadau am eich taith, a rhoi i chi’r gallu i lenwi eich oergell!

Yw eich gliniadur gennych?

Cymerwch olwg ar y cyfleuster chwilio am amserlenni, sydd ar ein gwefan, lle gallwch chwilio am eich llwybr bysiau a gweld yr amserlen lawn. Bydd copi pdf ar gael hefyd er mwyn i chi allu ei argraffu a mynd ag ef gyda chi!

Cael neges destun!

Ydych chi’n hwyr yn gadael yr ysbyty ar ôl bod yn ymweld â rhywun?

Defnyddiwch ein gwasanaeth negeseuon testun i gael gwybod am y 4 bws nesaf a fydd yn cyrraedd eich arhosfan – efallai y bydd gennych amser i un ddawns fach arall!

Anfon neges destun!

Mae gan bob arhosfan bysiau ei god unigryw 7 llythyren ei hun, sydd i’w weld ar stand yr arhosfan. Anfonwch y cod mewn neges destun i 84268* ac fe gewch ateb gennym yn rhad ac am ddim**!

Anfon neges destun nawr

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.

** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.

Problemau teithio

Peidiwch â gadael i broblemau teithio effeithio ar eich apwyntiadau – cynlluniwch ymlaen llaw!

Gallwch chwilio am unrhyw broblemau teithio yn eich ardal leol drwy fynd i’n gwefan cyn cynllunio eich taith. At hynny, gallwch ddefnyddio’r bar chwilio i chwilio am rif eich bws a gweld a oes unrhyw beth yn effeithio’n uniongyrchol ar eich llwybr chi.

Cael y diweddaraf!

Dilynwch ni ar Twitter @TravelineCymru lle byddwn yn aildrydar unrhyw ddiweddariadau gan weithredwyr am drafnidiaeth, wrth iddynt ddod i law!

Siwrnai ddiogel i chi oddi wrth Traveline Cymru

Gallwch ffonio’r asiantiaid yn ein Canolfan
ar 0300 200 22 33

Gallwch fynd i'n gwefan
cymraeg.traveline.cymru

Rydym yn cynnig gwasanaeth negeseuon testun.

Rhif Traveline ar gyfer negeseuon testun yw 84268*

Gallwch lawrlwytho ap Traveline Cymru
ar gael ar ddyfeisiau iPhone ac Android.

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.

** Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.